Cefndir

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Gwneir hyn trwy ddwyn sylw at y ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.

Mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd:

-        Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru;

-        Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Croesawaf y cyfle i gyflwyno sylwadau i’r ymgynghoriad ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) arfaethedig. Hoffwn achub ar y cyfle i bwysleisio rhai egwyddorion allweddol y byddwn i am ichi eu hystyried ar y cam cychwynnol hwn o baratoi ar gyfer y bil arfaethedig dan sylw. Er hwylustod, cyflwynaf fy sylwadau yn ôl penawdau perthnasol y papur ymgynghori.

Yr angen am strategaeth Awtistiaeth barhaus

Mae’r adran hon yn holi’n benodol ynghylch lefel y manylder y dylid eu cynnwys ar wyneb y ddeddfwriaeth arfaethedig. Mae’r Comisiynydd wedi pwysleisio’r angen ar sawl achlysur i ystyried y Gymraeg fel pwnc llorweddol mewn meysydd polisi ehangach. Nodaf nad oes unrhyw gyfeiriadau penodol at anghenion ieithyddol na’r Gymraeg yn y Memorandwm

Esboniadol i’r cynnig na’r papur ymgynghori fel ag y maent.  Hoffwn bwysleisio felly mai dyhead y Comisiynydd yw gweld y Gymraeg wrth galon pob datblygiad polisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Yn hyn o beth, hyderaf y byddwch am ystyried sut y gellir sicrhau ystyriaeth deilwng i’r Gymraeg ar wyneb y ddeddfwriaeth arfaethedig, fel y gellid ymhelaethu ar hynny mewn unrhyw ganllawiau neu is-ddeddfwriaeth cysylltiedig maes o law.

O safbwynt perthnasedd rhai agweddau ar gynnwys y bil arfaethedig i’r maes iechyd a gofal yn benodol, hoffwn dynnu sylw at y ffaith y ceir fframwaith neilltuol i gefnogi defnyddio’r Gymraeg mewn perthynas â’r maes hwn. Mae Fframwaith Strategol Olynol Mwy na Geiriau...(Llywodraeth Cymru, 2016) yn amlinellu nifer o gamau gweithredu i’w cyflawni ar y cyd i sicrhau bod y Cynnig Rhagweithiol yn cael ei wneud a’i ddarparu. Hoffwn ddwyn sylw penodol yn y cyswllt hwn at gam gweithredu 1.1 y Fframwaith sy’n datgan fel a ganlyn:

Yr holl ddogfennau polisi a strategaeth ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol (yn cynnwys Papurau Gwyn a Gwyrdd yn amlinellu cynigion deddfwriaethol) i gyfeirio'n benodol at y cyfrifoldeb i ddarparu iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn Gymraeg

Mae’r prif gyfrifoldeb dros weithredu’r cymal uchod wedi’i osod ar Lywodraeth Cymru, sy’n gydnabyddiaeth o’r ffaith mai’r Llywodraeth fel rheol sy’n cyflwyno biliau’r Cynulliad. Serch hynny, byddai’n rhesymol disgwyl bod yr egwyddor yr un mor berthnasol i filiau sy’n cael eu cynnig gan aelodau unigol ac y gellid felly ddisgwyl weld cyfeiriad(au) i’r perwyl uchod yn ystod hynt y bil arfaethedig hwn.

Eglurder ar lwybrau diagnosis

Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol o sawl achos lle wynebodd  unigolion  rwystrau wrth geisio cael mynediad at ddiagnosis drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang o feysydd, a bod rhesymau megis argaeledd profion wedi’u dilysu a diffyg cynllunio’r gweithlu yn gallu bod yn llestair yn hyn o beth. Mae’n bwysig manteisio i’r eithaf felly ar bob cyfle i wella mynediad at ddiagnosis drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr achos hwn, gan gynnwys y cyfleoedd i gefnogi hynny mewn deddfwriaeth.

Darparu gwasanaethau

Derbynnir yn gyffredinol erbyn hyn fod iaith yn ystyriaeth greiddiol i safon y gwasanaeth mewn maes fel yr un hwn. Mae’n hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r ymgynghoriad hwn yn cyfrannu at y pwyslais a roddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar wella safon ac argaeledd gwasanaethau Cymraeg. Fan leiaf, dylid ystyried sut y gall y bil arfaethedig sicrhau bod gwasanaethau awtistiaeth Cymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol a’u darparu.

O ran y bwriad i gasglu data, byddwn yn croesawu unrhyw gyfraniad y gallai’r ddeddfwriaeth arfaethedig ei wneud i gyfoethogi’r sail dystiolaeth er mwyn gosod gwaelodlin ac olrhain cynnydd yn yr angen am wasanaethau awtistiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, gallu’r gweithlu i’w ddiwallu, a llwyddiant ai peidio i gyrchu’r gwasanaeth hwnnw.

Hyfforddiant

Sonnir yn y papur ymgynghori am y bwriad i sicrhau bod staff allweddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yn cael hyfforddiant priodol ynghylch ymwybyddiaeth o awtistiaeth. Sonnir am rai mentrau sy’n digwydd eisoes a’r angen am hyblygrwydd wrth weithredu’n lleol. Sonnir hefyd mai mantais deddfwriaeth, ymhlith pethau eraill, fyddai ‘hyrwyddo cysondeb o ran y canlyniadau’ hyfforddi ym mhob rhanbarth a ‘darparu dull clir o fonitro’r gwaith o sicrhau a chynnal safonau’. Rhaid  pwysleisio yn ogystal bwysigrwydd cynllunio’r gweithlu a meithrin gweithlu sydd â sgiliau dwyieithog proffesiynol er mwyn i’r gweithlu hwnnw fedru ymateb yn gadarnhaol i anghenion ieithyddol o ran y Gymraeg.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol yn hyn o beth ichi ystyried y canlyniadau llesiant a gyhoeddwyd yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r rhain yn adnabod y Gymraeg fel agwedd allweddol ar alluogi siaradwyr Cymraeg i gyflawni eu canlyniadau llesiant a chael rheolaeth dros eu penderfyniadau iechyd a’u ffordd o fyw eu hunain. Rwyf o’r farn y dylid rhoi ystyriaeth i efelychu cyfeiriad i’r perwyl hwn fel canlyniad a ddymunir wrth hyfforddi, er mwyn sicrhau bod gan y gweithlu yn genedlaethol ymwybyddiaeth o’r Cynnig Rhagweithiol a sut i ymateb iddo.

Ymwneud y Comisiynydd â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol

Un o’r amcanion sydd wrth wraidd y cynnig i ddeddfu yw adeiladu ar ddarpariaethau’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd. Byddai’n werth nodi yn hyn o beth fy mod wedi bod yn dilyn datblygiad y Bil uchod ac yn falch iawn fod ystyriaethau am y Gymraeg yn rhan ganolog o’r trafodaethau a’r gwelliannau sydd wedi’u hystyried yn gyffredinol. Hyderaf y byddai’r ddeddfwriaeth a gynigir gennych yn ategu cynnwys y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn achos yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg yn ogystal.

Sylwadau clo

Hyderaf fod y sylwadau uchod yn ddefnyddiol wrth ichi fwrw ati i ystyried yr hyn ddylai cynnwys Bil Awtistiaeth (Cymru) fod maes o law. Edrychaf ymlaen at y cyfle i ystyried unrhyw gynigion deddfwriaethol pendant fydd yn deillio o’r ymgynghoriad hwn. Byddaf yn fwy na pharod i gyfrannu’n briodol at y trafodaethau hynny fel rhan o drefniadau craffu arferol y Cynulliad Cenedlaethol ymhen amser. Mae pob croeso ichi gysylltu â mi os gallaf fod o gymorth pellach yn y cyfamser.